galeri


Prosiect Hynt

imageMae Galeri yn aelod o Hynt - cynllun hygyrchedd cenedlaethol sy’n gweithio â rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru. Mae gan deiliaid cerdyn Hynt hawl i docyn am ddim ar gyfer cymar, gofalwr neu gynorthwy-ydd personol.

Sut i gofrestru am gerdyn aelodaeth?
Ar gyfer darllen y canllawiau ac i gofrestru ar gyfer eich cerdyn aelodaeth chi: hynt.co.uk

Gellir ebostio eich ffurflen gais ar ebost i: applications@hynt.co.uk neu bostio i:
Cerdyn Hynt, Network House, Ffordd St Ives, Sandycroft, Sir y Fflint. CH5 2QS

Mae Hynt yn cael ei reoli mewn partneriaeth â Creu Cymru a Diverse Cymru ac mae holl weinyddiaeth y cynllun yn cael ei gwblhau yn annibynnol o Galeri.

Sut gallai archebu tocyn fel aelod?
Gall deiliaid Cerdyn Hynt archebu tocynnau dros y cownter yn Galeri (gyda’r cerdyn) neu dros y ffôn (gan ddefnyddio rhif cofrestru’r cerdyn). Gall person arall (gofalwr / cymar / trefnydd trip ayyb) archebu tocynnau ar ran deiliwr Cerdyn Hynt, ond mae’n rhaid i’r tocynnau gael eu rhyddhau i ddeiliaid cerdyn (gyda’u cerdyn Hynt). Gofynnir bod tocynnau yn cael eu casglu o’r swyddfa docynnau oleiaf 30 munud cyn amser cychwyn y digwyddiad.

Os hoffech sgwrs bellach, cysylltwch â ni: 01286 685 222 neu ebostiwch post@galericaernarfon.com