galeri


The Crystal Ball Radio Show

image

Rhyddhewch eich hun o'r byd modern ag ailgread Cara & Co o Cabaret Berlin a Neuaddau Radio Efrog Newydd yn yr 1920au. Dyma gyfle i weld yr hud y bu Marlene Dietrich, Charlie Chaplain ac Anita Berber yn ei wylio o'r esgyll.

 

Mae Cara Hamilton wedi teithio i Garnifalau Gogledd America, y Syrcas a lleoliadau Cabaret Almaenaidd â'i pherfformiadau unigryw. Mae ei sioe lwyfan newydd yn bortread cywir o oes aur Hud a Lledrith.

 

Bydd Cara Hamilton yn gwneud i'ch pen droi â gallu mesmeraidd yr Iddew o Awstria, Erik Jan Hanussen, i ddarllen meddyliau - roedd ei bŵer a'i ddylanwad yn codi ofn mawr ar Hitler a'r Natsïaid; gwyliwch hefyd dalent newydd y byd Dihangeg, y Dywysoges Nadji, yn rhoi cynnig ar ddihangfa syrcas anoddaf Houdini. Yn ddiweddglo i’r noson, bydd Cara yn ail-greu’r act hud beryclaf mewn hanes - Rwlét y Rwsiaid â phum gwn.

 

Gallwch chi ddisgwyl pethau gwahanol, unigryw, rhyfeddol a gwefreiddiol o'r oes olaf i gredu mewn hud.

19:30 - Dydd Sadwrn, 4 Mai Tocynnau