galeri


NT Live: Antony & Cleopatra (12A)

image

Darllediad byw o’r National Theatre, gyda Ralph Fiennes a Sophie Okonedo yn serenu fel cwpwl enwog Shakespeare yn ei drasiedi am wleidyddiaeth, cadernid ac angerdd.

 

Mae Cesar a’i lofruddwyr wedi marw, a’r Cadfridog Mark Antony sydd yn teyrnasu Rhufain gyda’i gyd-amddiffynwyr.   Ond ar gyrion ymerodraeth dan grafangau rhyfel  mae Cleopatra,  Brehines yr Aifft, a Mark Antony wedi syrthio mewn cariad.  Mewn brwydr drasig rhwng dyletswydd a defosiwn, mae obsesiwn yn gatalydd am ryfel.

 

Mae’r cyfarwyddwr Simon Goodwin yn dychwelyd i’r National Theatre Live gyda’r cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig hwn, yn dilyn darllediadau oTwelfth Night,Man and SupermanaThe Beaux’ Strategem.

19:00 - Dydd Iau, 6 Rhagfyr Tocynnau