galeri


NT Live: The Madness of George III (12A)

image

Wedi ei ysgrifennu gan un o ddramodwyr mwyaf poblogaidd Prydain, Alan Bennett (The History Boys,The Lady in the Van), dyma ddarllediad byw o’r cynhyrchiad arobryn  The Madness of George IIIi sinemau o’r Nottingham Playhouse.

 

Mae hi’n 1786 a’r Brenin George III ydi’r dyn mwyaf pwerus yn y byd… ond mae ei ymddygiad yn troi’n eratig ac ar adegau – gwallgofrwydd llwyr! Gan sylweddoli bod y Brenin ychydig yn fregus, mae gwleidyddion uchelgeisiol a’r cynllwyniwr – Tywysog Cymru sydd yn ceisio tanseilio pwer y goron a datgelu y linell denau rhwng y Brenin a’r unigolyn.

 

Ymhlith y cast arbennig mae dau enillydd gwobr Olivier - Mark Gatiss (Sherlock,Wolf Hall,NT LiveCoriolanus) fel George III ac Adrian Scarborough (Gavin and Stacey,Upstairs Downstairs,After the Dance).

19:00 - Dydd Mawrth, 20 Tachwedd Tocynnau