galeri


Ralph McTell

image

Yn un o’r goreuon fel storïwr cerddorol, mae Ralph McTell yn dathlu 50 mlynedd ar y lôn.  Yn gyfansoddwr o fri, yn feistr ar y gitar – mae gan Ralph arddull hudol sydd yn tynnu’r gynulleidfa i’w fyd arbennig o stori a chân.

 

Gwnaeth Ralph McTell gyhoeddi ei albwm cyntaf ‘Eight Frames a Second’ ym 1968 ac yn 1974 cafodd ei gân ‘Streets of London’ wobr Ivor Novello am y gân orau o’r flwyddyn.

 

Yn 2002, cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Oes iddo yn seremoni Gwobrau Gwerin  BBC Radio 2.

 

Edrychwn ymlaen i groesawu Ralph ar lwyfan Galeri am y tro cyntaf!

19:30 - Dydd Mawrth, 30 Hydref Tocynnau