galeri


Geiriau'n Dawnsio: Cerddi'r Corff

image

Sesiwn arbennig gan y grŵp dawns Cain i gloi project newydd yn cyfuno geiriau a symudiadau, dawns a barddoniaeth.

 

Wedi cyfnod o weithio efo’r bardd Gwion Hallam a’r coreograffydd Cai Tomos mae grŵp dawns Galeri i rai dros 60 oed yn barod i ddangos yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud. Rhythmau’r corff a’r cerddi yn un cywaith byw wedi ei greu gan y grŵp eu hunain. Dyma gyfle i weld a chlywed y cerddi corfforol newydd sydd wedi deillio o’r project.

 

“Nid o’r pen y mae cerddi’n dod, ond o’r esgyrn – o’r corff. O rythmau a symudiadau ein byw.”

 

Trefnwyd drwy gynllun nawdd Llên  a Lles, Llenyddiaeth Cymru.

16:00 - Dydd Sul, 20 Mai Tocynnau