galeri


Edinburgh Fringe Preview: Edd Hedges & Alice Marshall

image

Wrth i ŵyl Ymylol Caeredin nesau, mae’n bleser mawr gennym groesawu tair noson gomedi - oll gyda digrifwyr o fri sy’n paratoi i wynebu cynulleidfaoedd Caeredin...

 

Yn perfformio heno:

 

Edd Hedges: Gwaith ar y Gweill

Ym 1988 collodd llanc reolaeth ar ei gar. Yn 2014 cafwyd diwedd annisgwyl I barti Calan Gaeaf. Yn 2017 yr oedd storm o fellt a tharanau mewn pentref bychan.

 

Dyma Edd Hedges yn dychwelyd yn dilyn ei sioe agoriadol Wonderland gydag awr unigryw arall o adrodd straeon. Fel y’i gwelwyd ar BBC Presents ac yn cefnogi Sofie Hagen ar ei thaith, yn ogystal a sioe yr Almighty Comedy Hour yng

Ngŵyl Ymylol Adelaide.

 

Alice Marshall: The Strike

Yn y sioe eleni, mae Alice Marshall yn dychwelyd gyda mwy o’r cymeriadau od a rhyfeddol sy’n unigryw iddi hi, a’r tro hwn maent am eich cludo’r holl ffordd i’r pumed dimensiwn. Ymunwch a’r stiwardes awyr Sbaenaidd bowld a digywilydd Maria - ‘y fenyw ddicaf yn yr awyr’ fel y’i galwyd unwaith - wrth iddi groesawu’r gynulleidfa i’r awyren am daith ddi-stop 50-munud i’r Gwyll.

★★★★★ ShortCom | ★★★★ Herald Scotland | ★★★★ Three Weeks | ★★★★★ Broadway Baby

 

Tocynnau yn £8 ymlaen llaw / £10 ar y diwrnod (neu cewch hatric am ddim ond £21!)

20:00 - Dydd Gwener, 20 Gorffennaf Tocynnau