galeri


TONIC: Pwyll a Nia

image

I ddechrau blwyddyn newydd o’n cyfres TONIC, rydym yn croesawu dau gerddor talentog iawn – Pwyll ap Sion a Nia Davies-Williams.

 

Darlithydd, cerddor a chyfansoddwr o Sir Fon ydi Pwyll, tra bod Nia yn gerddor preswyl yng nghanolfan gofal dementia, Bryn Seiont Newydd, yng Nghaernarfon.

 

Daw’r ddau i chwarae casgliad o ganeuon traddodiadol Cymraeg, gyda threfniant o ambell gan poblogaidd Cymraeg a hynny ar y delyn, y piano a’r allweddellau.

18.01.2018 | 14:30 - Tocynnau