galeri


NT Live: Macbeth (12A)

image

gan William Shakespeare
cyfarwyddwr: Rufus Norris

 

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd…

 

Cyfle i fwynhau darllediad byw o’r National Theatre gyda cast yn cynnwys  Rory Kinnear (Young Marx, Othello) fel Macbeth a Anne-Marie Duff (Oil, Suffragette) yn perfformio rhan Lady Macbeth dan gyfarwyddyd Rufus Norris (TheThreepenny Opera, London Road).

 

10.05.2018 | 19:00 - Tocynnau