galeri


NT Live: Young Marx (12A)

image

Rory Kinnear yw Marx ac Oliver Chris yw Engels, yn y gomedi newydd hon gan Richard Bean a Clive Coleman. Mae’r cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw o Theatr y Bridge, Llundain, dan gyfarwyddyd Nicholas Hytner ac yn dwyn at ei gilydd eto y tîm creadigol oedd y tu ôl i’r gomedi fu mor llwyddiannus ar Broadway ac yn y West EndOne Man, Two Guvnors.

 

1850, ac y mae terfysgwr peryclaf Ewrop yn cuddio yn Dean Street, Soho. Heb geiniog yn ei boced, yn aflonydd ac yn nwydwyllt, mae’r chwyldroadwr deuddeg ar hugain oed yn gyfuniad berwedig o ddisgleirdeb deallusol, difenwi, ffraethineb dychanol, ac anllythrenogrwydd emosiynol hollol blentynnaidd.

 

Mae credydwyr, ysbiwyr, carfannau chwyldroadol gwrthwynebus a’r sawl sydd am ddenu ei wraig brydferth oll yn troelli fel fwlturiaid o’i gwmpas. Heb allu ysgrifennu, a’i briodas ar chwâl, ei gyfaill Engels yn anobeithio am ei fod yn gwastraffu ei athrylith, ei unig obaith yw cael swydd ar y rheilffordd. Ond er hynny, does neb yn y brifddinas all roi gwell noson  feddwol allan i chi na Karl Heinrich Marx.

07.12.2017 | 19:00 - Tocynnau