galeri


NY Met: Cendrillon (Massenet)

image

Dewines dda, sliper wydr, dawns fawreddog, coedwig hudolus, a Thywysog Hawddgar sy'n ei charu—a ddigwyddodd hynny, ynteu ai breuddwyd oedd popeth? Mae Cendrillon hiramyneddgar yn byw bywyd caled gyda'i thad clên a'i wraig drahaus, hyd nes y mae ffawd, rhamant, a mymryn o hud a lledrith yn ymyrryd.

 

Am y tro cyntaf erioed, mae fersiwn odidog Massenet o stori Sinderela yn dod i'r Met yn y cynhyrchiad llyfr stori dychmygus hwn dan gyfarwyddyd Laurent Pelly.  Y seren enwog Joyce DiDonato sy'n canu'r brif ran, ochr yn ochr â'r mezzo-soprano o Brydain, Alice Coote fel y Tywysog Hawddgar, Kathleen Kim fel y Ddewines Dda, a Stephanie Blythe fel y llys-fam ddrygionus glasurol.

 

Amcan hyd: 2” 47m

Perfformir mewn Ffrangeg gydag is-deitlau Saesneg

28.04.2018 | 17:55 - Tocynnau