galeri


NY Met: La Boheme (Puccini)

image

Mae opera fwyaf poblogaidd y byd yn dychwelyd gyda chast ifanc cyffrous yng nghynhyrchiad chwedlonol Franco Zeffirelli. Mae'r bardd tlawd Rodolfo a'i ffrindiau artistig yn crafu byw yn y Baris fohemaidd, yn canlyn eu celfyddyd, yn chwerthin, yn ffraeo, yn osgoi'r landlord, ac yn cael jolihoet yn eu caffi lleol. Pan mae Rodolfo'n cwrdd â'r Fimì dlos, mae'r ddau'n syrthio mewn cariad ar unwaith. Ond Mimì'n wael, mae Rodolfo'n genfigennus, ac mae eu serch ar ben cyn cychwyn.

 

Y sêr enwog Sonya Yoncheva a Michael Fabiano sy'n chwarae'r pâr torcalonnus, gan ganu dwy o ffefrynnau aruchel Puccini-“Sì, mi chiamano Mimì” a “Che gelida manina.” Mae'r ffordd aruthrol y mae Zeffirelli wedi ail-greu Paris yn yr 19eg ganrif yn siŵr o'ch rhyfeddu.

 

Amcan hyd: 2” 55m

Perfformir mewn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg

24.02.2018 | 17:30 - Tocynnau