galeri


NY Met: L'Elisir d'Amore (Donizetti)

image

Mae Nemorino, y bachgen tlawd o'r wlad, mewn cariad ag Adina, y dirfeddianwraig hyderus, ond mae hi'n bell allan o'i gyrraedd—yn ariannol ac fel arall. Ond pan mae o'n prynu "diod hud" gan drafaeliwr, mae'r canlyniadau braidd yn annisgwyl.

 

Wedi'i lwyfannu'n gyfareddol gan Bartlett Sher, mae campwaith hoff Donizetti yn cyfuno amseru comig medrus a dyfnder emosiynol teimladwy. Matthew Polenzani yw seren y cynhyrchiad, a fu'n afaelgar gerbron cynulleidfaoedd y Met fel Nemorino yn 2013, gyda'i "Una furtiva lagrima" wefreiddiol.

 

Y soprano addawol o Dde Affrica, Pretty Yende, yw'r Adina sionc, mae Davide Luciano yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'r Met fel y milwr haerllug Belcore, ac Ildebrando D'Arcangelo yw Doctor Dulcamara sy'n gwerthu'r ddiod. Domingo Hindoyan sy'n arwain.

 

Amcan hyd: 2” 39m

Perfformir mewn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg

10.02.2018 | 17:00 - Tocynnau