galeri


NY Met: The Exterminating Angel (Ades)

image

Eisteddwch yn y swper rhyfeddaf erioed. Mae'r gweision wedi ei heglu hi; mae'r stiw ar hyd y llawr; mae arth yn yr ardd; mae eich cyd-westeion yn prysur droi'n anwaraidd; ac yn fwy anesboniadwy na dim, does neb i'w weld yn gallu gadael. 

 

Mae'r cyfansoddwr Prydeinig Thomas Adès (The Tempest) yn arwain y perfformiad Americanaidd cyntaf o'i opera ddiweddaraf. Mae'r gomedi ddu, gydag arlliw oHigh-RiseJG Ballard/Ben Wheatley, yn seiliedig ar sgript ffilm swrealaidd Luis Buñuel o 1962. Mae'r cast yn llawn enwau Prydeinig sydd wedi hen ennill ei plwyf, gan gynnwys Sally Matthews, Sophie Bevan, Alice Coote, Christine Rice, Iestyn Davies a John Tomlinson.

 

Amcan hyd: 2” 27m

Perfformir yn Saesneg

18.11.2017 | 17:55 - Tocynnau