galeri


Sdwnsh Coginio!

image

Ar noswyl Gŵyl Fwyd Caernarfon, y barnwr a’r darlledwr Nic Parry fydd yn llywio noson hwyliog o adloniant wrth i ddau dîm o gogyddion herio’i gilydd yn y gegin.

 

Bydd dau o gogyddion gorau Cymru, Aled Williams a Hywel Griffith yn cael help gan ddwy ferch leol sy’n caru eu bwyd – Lisa Jên a Nici Beech. Bydd y timau yn troi amrywiaeth o gynnyrch lleol yn brydau blasus gyda gwesteion arbennig iawn yn blasu’r bwyd – ffermwr enwocaf Cymru, Gareth Wyn Jones a’r unigryw Lisa Angharad. Y gynulliedfa fydd yn penderfynu ar enillwyr yr ornest.

 

Canllaw oed: 14+

Cymraeg yw Iaith y noson

 

Trefnir y noson gan Gŵyl Fwyd Caernarfon. Am y diweddaraf am drefniadau’r Ŵyl - gwylfwydcaernarfon.cymru

 

12.05.2017 | 19:30 - Tocynnau