galeri


TONIC: Sioned Terry

image

Mae’r mezzo-soprano Sioned Terry yn berfformwraig hyblyg ac mae ei harddull yn gweddu cystal i genre yr aria operatig, y gân gelf, oratorio, caneuon poblogaidd y sioeau cerdd ac wrth gwrs, y clasuron Cymreig.

 

Mae lleoliadau ei pherfformiadau yr un mor amrywiol, o gae rygbi i neuadd gyngerdd, llwyfan gwyliau awyr agored a rwan Tonic yn ôl ar lwyfan Galeri!

 

Bydd paned i ddilyn.

09.03.2017 | 14:30 - Tocynnau