Croeso i benwythnos unigryw yn hanes Caernarfon! Wrth i fwy na 80 o artistiaid rhyngwladol ddod i Eryri ar gyfer cynhadledd Bubble Daze, mae Galeri a chwmni swigod lleol Dr. Zigs yn trefnu gŵyl i gyd-fynd â’r gynhadledd. Yn ystod y penwythnos, bydd cyfle i bawb o bob oed fwynhau a dysgu mwy am swigod - sut mae creu swigod, sut mae creu pypedau o ewyn, a dysgu sut mae mathemateg a gwyddoniaeth yn bwysig wrth gynhyrchu a chwythu swigod.
Yn ogystal â sioeau theatr yn Galeri, bydd rhai o’r artistiaid rhyngwladol yn cynnal perfformiadau stryd ar hyd a lled y dref. Yna, i goroni’r ŵyl, ymgais Caernarfon i roi ei henw ar fap y byd fel lleoliad torri recordiau creu swigod!
10:00 | Disgo Swigod
POB TOCYN WEDI GWERTHU!
12:00 | Tom Noddy: Bubble Magic
19:30 | Bubble Daze All Stars
09:30 | Torri Recordiau’r Byd (Rhan 1 – Galeri)
13:30 | Torri Recordiau’r Byd (Rhan 2 – Castell Caernarfon)