galeri


Olwyn Lliw - Gweithdy Celf / Art Workshop

image

Ymunwch â ni mewn gofod hamddenol i ddysgu sgiliau celf newydd neu ddatblygu eich sgiliau presennol, wrth wella eich iechyd a lles trwy greadigrwydd a chael eich cefnogi gan grŵp o bobl groesawgar.

Awst 14 – Gweithdy Latchhook gyda Ella Louise Jones

Medi 11 – Gweithdy gyda Jwls Williams

Hydref 16 – Gweithdy gyda Jwls Williams

Tachwedd 13 – Gweithdy Gemwaith gyda Angharad Jones

Rhagfyr 4 – Crefftau Nadolig gyda Jwls Williams

Agored i unrhyw un 16 oed a throsodd.

Amser - 10:30 - 13:00

Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, afonwch e-bost at Ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwch yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

10:30 - Dydd Mercher, 4 Rhagfyr Tocynnau