galeri

Membership


Do you attend events in Galeri often? Would you like to save money? Here are two membership plans to help you out!

Prima+

logo prima

What is Prima+?

Your access to special offers — with 10% discount across the company, in the café, bar (excluding alcohol), cinema, and selected live events. It’s our way of thanking you for your continued support.
In Breton, German and Italian, Prima means the first, the special, the best. From Prima Donna to Prima Volta, it’s a familiar term on stage and in musical contexts — both of which are an integral part of Galeri’s offer.

Prima+ is a development of the original Prima scheme. We’re continuing to grow our programme, our service and our commitment to the community — and welcoming you to enjoy Galeri is a privilege.

For £30 per year, we hope you’ll make the most of everything we offer — from the programme to the menu! If you’re an existing Prima member, we’ll upgrade your membership free of charge.

Enjoy!

 

Translation coming soon..

Prima+ yw cynllun aelodaeth newydd Galeri, wedi’i greu i roi mwy o fuddion, mwy o arbedion, a mwy o groeso i’n haelodau mwyaf ffyddlon. Am £30 y flwyddyn, cewch fwynhau 10% i ffwrdd yn y caffi, y bar (heb gynnwys alcohol), tocynnau sinema, a digwyddiadau byw lle bo’n gymwys. Chwiliwch am yr arwydd Prima+ wrth ymyl digwyddiadau sy’n cynnig y gostyngiad.

Ar ôl ymuno, bydd aelodau’n derbyn pecyn aelodaeth sy’n cynnwys eich cerdyn Prima+. Bydd angen y cerdyn wrth archebu’n bersonol yn y caffi, y bar neu yn y dderbynfa - gyda’r system yn cysylltu’n awtomatig â’ch cyfrif Ticketsolve.

Os ydych yn archebu tocynnau ar-lein drwy wefan Galeri, bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif.

Trefnir y taliad drwy ddebyd uniongyrchol, gan adnewyddu’r aelodaeth yn awtomatig bob 12 mis.

1. Cyffredinol

  1. Mae Prima+ yn gynllun aelodaeth blynyddol a gynigir gan Galeri.
  2. Trwy ymuno â’r cynllun, rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau hyn.
  3. Gall Galeri ddiweddaru neu addasu’r telerau hyn o dro i dro; bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyhoeddi ar ebost ac ar wefan Galeri.

2. Cost ac adnewyddu

  1. Pris yr aelodaeth yw £30 y flwyddyn.
  2. Trefnir taliadau drwy ddebyd uniongyrchol.
  3. Bydd yr aelodaeth yn adnewyddu’n awtomatig bob 12 mis.
  4. Os bydd taliad yn cael ei wrthod neu’n methu, caiff yr aelodaeth ei chanslo’n awtomatig a bydd buddion y cynllun yn dod i ben.
  5. Nid oes ad-daliadau ar gael ar ôl prosesu’r taliad.

3. Buddion

  1. Mae aelodau Prima+ yn derbyn 10% i ffwrdd yn y caffi, y bar (heb alcohol), y sinema a digwyddiadau byw lle bo’n gymwys.
  2. Nid yw’r gostyngiad yn berthnasol i alcohol, tecstilau, nwyddau manwerthu na gwasanaethau eraill o fewn y cwmni.
  3. Gall argaeledd y gostyngiad amrywio rhwng digwyddiadau; chwiliwch am yr arwydd Prima+ wrth ymyl digwyddiadau cymwys.
  4. Ni ellir cyfuno’r gostyngiad â chynigion eraill.
  5. Rhaid dangos neu sganio’r cerdyn Prima+ i gael y gostyngiad wrth archebu wyneb yn wyneb.

4. Cofrestru a dilysu aelodaeth

  1. Rhaid cofrestru drwy wefan Galeri neu trwy gysylltu â’r dderbynfa.
  2. Wrth archebu ar-lein, caiff y buddion eu cymhwyso’n awtomatig pan fydd yr aelod wedi mewngofnodi i’w gyfrif Ticketsolve.
  3. Wrth archebu mewn person, rhaid cyflwyno’r cerdyn aelodaeth ar y pryd. Os na fydd y cerdyn ar gael, efallai na fydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso.

5. Pecyn Aelodaeth a cherdyn

  1. Bydd aelodau’n derbyn pecyn aelodaeth sy’n cynnwys cerdyn Prima+.
  2. Os caiff y cerdyn ei golli, mae ffi gweinyddu o £2.50 am gerdyn newydd.
  3. Mae’r cerdyn yn anghyfrannadwy ac yn ddilys ar gyfer y deiliad cofrestredig yn unig.

6. Terfynu neu atal aelodaeth

  1. Gall aelodau ofyn i derfynu eu haelodaeth ond nid oes ad-daliad ar ôl talu.
  2. Gall Galeri atal neu derfynu aelodaeth os ceir camddefnydd o’r cerdyn, y gostyngiadau neu’r system archebu.

7. Data personol

  1. Caiff data personol ei brosesu yn unol â pholisi preifatrwydd Galeri.
  2. Caiff manylion aelodaeth eu storio’n ddiogel drwy system Ticketsolve.
  3. Trwy ymuno â Prima+, rydych yn cytuno y caiff eich manylion cyswllt eu hychwanegu at restr ebyst Prima+. Defnyddir y rhestr hon i anfon diweddariadau perthnasol am y cynllun, newidiadau i delerau’r aelodaeth, a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â buddion y cynllun yn unig.
  4. Ni chaiff eich manylion eu rhannu ag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata, ac mae gennych hawl i ddad-danysgrifio o’r rhestr ebyst ar unrhyw adeg.

8. Cysylltu

Ar gyfer ymholiadau ynghylch Prima+, cysylltwch â’n derbynfa neu ewch i galericaernarfon.com.