galeri


Cyfle i redeg Café Bar Galeri

Golygfa tu allan i'r Galeri
Bar prysur yn yr Galeri
Caffi Galeri

Profiad o weithredu busnes arlwyo yn llwyddiannus?

Mae gennym gyfle busnes unigryw yma yn Galeri…

Rydym yn awyddus i ddarparu cyfle i gwmni/unigolyn/grwp o unigolion redeg cynnig a gwasanaeth Café Bar Galeri drwy drwydded.

Yn rhan ganolog o adeilad a bwrlwm Galeri, mae’r Café Bar yn cynnig gwasanaeth bwyd/diod i groesdoriad o gwsmeriaid gan gynnwys:

Dyma felly gynnig, dros gyfnod cytundeb 5 mlynedd (fel man cychwyn) ein:

Mae cyfle gwirioneddol yma i wneud y mwyaf o’r lleoliad, y cwsmeriaid sydd gan Galeri yn barod ac i adeiladu ar y ddarpariaeth â’r potensial di-ddiwedd sydd ar gael drwy redeg y gwasanaeth Café Bar yn Galeri.

Yn hanesyddol, mae Galeri wedi bod yn croesawu dros 250,000 drwy’r drysau yn flynyddol.

Diddordeb?

Os oes gennych ddiddordeb – dyddiad cau ar gyfer datgan eich diddordeb: 12:00 (hanner dydd) - dydd Gwener, 31.03.23.

Mae croeso i chi ebostio trwyddedu@galericaernarfon.com ac fe wnawn gysylltu am sgwrs i drafod y cynnig ymhellach. Gallwn hefyd drefnu ymweliad a sgwrs mewn person yn Galeri drwy drefniant.

Y camau yn y broses fydd:

  1. Datgan diddordeb yn swyddogol
  2. Cyflwyno cynllun busnes manwl
  3. Cyfweliadau a phenderfynu ar y cais llwyddiannus
  4. Cwblhau'r dogfennau cyfreithiol
  5. Trwydded newydd yn weithredol