*Ding dong* Dyma gyhoeddiad cwsmeriaid! Mae’r podlediad arobryn ’Siarad Siop gyda Mari a Meilir’ a’r daith ac yn edrych ymlaen i’ch croesawu chi i’r siop am noson o sgwrsio, chwerthin a llawer o hel clecs. Bydd y noson yn cynnwys holl eitemau cyfarwydd y podlediad fel y blwch cyfrinachau, ond y tro yma yn fyw o flaen eich llygaid ac efallai gyda ambell i elfen arbennig ychwanegol. Be well? Felly ewch i gasglu eich ffrindiau, nol potel o fizz o’r bar a dewch i Siarad Siop efo Mari a Meilir.