galeri


Cyngerdd yr Wyl Delynau 2026

image

Cyngerdd yr Ŵyl:      Cerys Hafana             Katherine Thomas                Amy Turk

Bydd Cyngerdd Gŵyl Delynau Cymru 2026 yn dod a rhai o sêr byd y delyn yn y maes clasurol, traddodiadol a phoblogaidd i lwyfan Theatr Galeri. Ymunwch gyda ni i ddathlu amlochredd yr offeryn cenedlaethol yng nghwmni Cerys Hafana, Katherine Thomas ac Amy Turk. Byddwn hefyd yn dathlu dau gan mlwyddiant geni John Thomas, Pencerdd Gwalia gyda pherfformiadau o'i weithiau i'r delyn. 

MaeCerys Hafanayn delynor teires a chyfansoddwr sy’n manglo, treiglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Maent yn archwilio posibiliadau creadigol deunydd traddodiadol ac archifol, yn ogystal â chreu cyfansoddiadau gwreiddiol. Mae Angel, eu halbwm diweddaraf ar tak:til/Glitterbeat, a ryddhawyd ym mis Medi 2025, yn archwiliad dwfn o gerddoriaeth finimalaidd, traddodiadol ac avant-werin, gan newid rhwng caneuon (i gyd yn y Gymraeg) ac offerynnau, yn aml yn cael eu cefnogi gan driawd medrus o gerddorion cydymdeimladol ac archwiliadol (drymiau, bas dwbl, sacsoffon alto).

Perfformiodd y delynoresKatherine Thomasar y cyd ag artistiaid byd- enwog gan gynnwys Bryn Terfel, Rolando Villazon, Katherine Jenkins a'r ‘Manic Street Preachers’. Teithiodd yn eang fel unawdydd gyda sawl cerddorfa, gan gynnwys Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru fel prif delynores. Wedi graddio o Academi Cerdd a Drama'r Guildhall, perfformia ar y delyn Geltaidd a’r delyn deires yn ogystal â'r delyn bedal ac mae ei recordiadau'n cynnwys cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth draddodiadol Gymreig a recordiadau o weithiau cyfoes. Ymhlith ei phrosiectau diweddaraf y mae recordiadau newydd gyda Sheku Kanneh-Mason a ‘The Four Seasons’ (Vivaldi) wedi'u haddasu gan Gerddorfa Symffonig Dinas Birmingham, lle y mae hi’n brif delynores.

Telynores aml-gyfrwng, cyfansoddwraig, trefnydd cerddorol ac artist sesiwn o Ynysoedd Prydain ywAmy Turk. Mae ganddi ddiddordeb neilltuol mewn offerynnau taro, sgorau gemau fideo a ffilmiau, a cherddoriaeth boblogaidd o wahanol arddulliau. O ganlyniad, sefydlodd yrfa unigryw drwy gyfrwng ei gweithiau ar-lein, ei chyfansoddiadau arloesol a’i threfniannau ar gyfer telyn ac ensemblau. Darlledir gwaith a chyfansoddiadau Amy Turk yn gyntaf i'w chefnogwyr hael ar lwyfan Patreon, cyn ymddangos ar Spotify, YouTube, Instagram a TikTok. Mae ei EP gyntaf, Syzygy sy'n cynnwys tair cân wreiddiol yn ei harddull offerynnau taro nodweddiadol, ar gael yn awr.

19:30 - Dydd Mercher, 1 Ebrill Tocynnau