Dyma ddangosiad arbennig o bedair ffilm fer iaith Gymraeg yn dogfennu diwylliantcymunedol yng Nghymru gan wneuthurwyr ffilm ifanc ledled y wlad.
Cafodd rhain eucomisiynu gan Am, gwefan sydd yn gartref digidol i ddiwylliant Cymru (https://ambobdim.cymru/) yn rhan o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam. Cefnogir AmCam ganGyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r ffilmiau yn dogfennu pynciau cymunedol eang, yn cynnwys criw o ferched yn creu gwaith celf o natur yng nghefn gwlad Gogledd Cymru, gwaith Gwylwyr y Glannau yn Llansteffan, dylanwad papur bro ar gymuned Bethesda a chasgliadau brodwaith gan griw o wirfoddolwyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Sir Gaerfyrddin. Y gwneuthurwyr ffilm ydy Gwenno Llwyd Till, Lauren Heckler, Hannah Mefin a Lily Tiger T Wells. Bydd hefyd cyfle cyffrous i glywed sesiwn cwestiwn ac ateb gyda dwyo’r gwneuthurwyr ffilm, Gwenno a Hannah, am y ffilmiau a’r broses o’u creu. Ymunwch â nii weld y ffilmiau ar y sgrîn fawr am y tro cyntaf erioed.
18:00 - Dydd Mercher, 25 Chwefror Tocynnau