Cyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan Yasmina Reza
2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast!
Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt - mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc. Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr!
Mae chwarae’n troi’n chwerw go iawn yn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon.
Canllaw oed 14+
This is a Welsh language production, English precis will be available