Synopsis:
Taith bwerus o berthyn gan Gwmni Dawns Hedydd Ble y dechreuwn ni, a beth y gadwn ar ôl?
Hiraeth, Lost Rootsyw perfformiad dawns fertigol cyfareddol sy'n dechrau ar drothwy'r cartref ac yn gorffen lle mae natur yn ein hadennill. Wrth groesi moroedd, mynyddoedd ac ymgamu i goedwigoedd hynafol, mae pedair menyw yn dilyn edafedd hunaniaeth, ymfudiad a chof—gan asio straeon personol gyda mytholeg Geltaidd, Roegaidd ac Wcreinaidd.
Gyda cherddoriaeth fyw wefreiddiol a naratif barddonol gan Eadyth Crawford, mae’r profiad trochi hwn yn eich gwahodd i gamu i fyd lle mae'r ffiniau rhwng chwedl a chof yn pylu.
✨Yn gwbl hygyrch i gynulleidfaoedd â nam ar eu golwg
🌿Set ryngweithiol—archwiliwch cyn i'r perfformiad ddechrau
Gadewch i’r stori eich symud—yn gorfforol ac yn emosiynol.
GWEITHDAI A TAITH GYFFWRDD AR GAEL. Cysylltwch âhedyddcyf@gmail.comi archebu lle. Llefydd cyfyngedig ar gael.
Gyda chefnogaeth gan: Cyngor Celfyddydau Cymru, VDKL, Galeri Caernarfon Cyf, Pontio, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru, Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion, Celfyddydau Anabledd Cymru