Mae Q-fforia yn ddathliad bywiog o straeon cwiar a adroddir
trwy theatr ddawns, barddoniaeth lafar a sgôr sain electropop curiadol.
Dilynwch daith Oran ac Angharad i ddathlu eu hunaniaeth cwiar trwy ramantau
lletchwith, cariad a dod o hyd i gymuned.
Gan ymchwilio i'w hanes personol, daw Angharad ac Oran â'u profiadau o
hunan-ddarganfyddiad a straeon am ddod allan yn fyw. Ar adegau’n ddoniol ac ar
adegau’n dorcalonnus, mae Q-fforia yn gadael cynulleidfaoedd ag ymdeimlad llawn
llawenydd, dathlu ac undod.
Mae cyfuniad o adrodd straeon trwy ddawns gyfoes, straeon personol a barddoniaeth lafar gan Megan Lloyd (Gwaith Papur) yn golygu bod rhywbeth at ddant pawb yn y sioe hon.
Mae Q-fforia yn atseinio gyda phobl o bob oed. Mae wedi'i wneud gydag oedran 11+ mewn golwg ond mae'n addas ar gyfer oedolion, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae Q-fforia wedi’i wneud gan dîm greadigol cwiar tra’n cyd-weithio’n agos â grwpiau ieuenctid LHDTC+ i ddatblygu’r sioe.
Ymunwch a ni i ddathlu ar ôl y sioe gyda Gaylidh (ia, Gay-Ceilidh), fedrwn ni sicrhau lot o chwerthin, dawnsio ac ysbryd cymunedol. Croeso i bawb!
13:30 (Perfformiad iaith Gymraeg) 19:30 (Perfformiad dwyieithog)
Llun ganSian Trenberth Photography