galeri


Cyngerdd yr Ŵyl | Festival Concert: Glain Dafydd, Gwenan Gibbard, Trio Haydée

image

Dewch i wrando ar gerddoriaeth amrywiol ar y delyn mewn cyngerdd sy'n cynnwys cerddoriaeth glasurol, gwerin a cherddoriaeth o Ffrainc a llawer mwy! 


Mae gyrfaGlain Dafyddyn cynnwys llwyddiannau mewn cystadlaethau megis y 4ème Rencontres Internationales de la Harpe en Île-de-France, Ysgoloriaeth Bryn Terfel a ‘Gwobr Dinas Szeged’ yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Szeged, Hwngari. Cyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadlaethau’r BBC Young Musician a’r Royal Over-Seas League, daeth yn ai yng nghystadleuaeth ieuenctid Gŵyl Delynau Ryngwladol Moscow ac mae hi’n gyn-enillydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru. Astudiodd yn yr École Normale de Musique de Paris ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. 

MaeGwenanyn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru. Mae wedi perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a’n alawon traddodiadol. Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac mae ei thrydydd albwm ar label Sain, Cerdd Dannau, yn gasgliad sy’n darganfod hen drysorau ac yn torri tir newydd ym maes cerdd dant. Mae ei halbym diweddaraf, ‘Hen Ganeuon Newydd’, yn canolbwyntio ar ganeuon gwerin ei hardal genedigol, Llŷn ac Eifionydd, ac yn cyd-fynd â’i hymchwil doethurol diweddar yn y maes hwnnw. 

Un arall o gyn-enillwyr Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru ydi Constance Luzzati o Ffrainc. Mae hi bellach yn ran oTrio Haydéegyda’r mezzo-soprano Marielou Jacquard a’r ffliwtydd Anastasie Lefebvre de Rieux. Yn 2022 fe recordiodd y triawd Songs of Sleep gan Grace Williams ac maent yn canolbwyntio ar repertoire sy’n cyfuno gweithiau heb eu cyhoeddi o’r ganrif ddiwethaf â chyfansoddiadau cyfoes. Bydd eu rhaglen yn y cyngerdd yma yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Ffrainc a Chymru

19:30 - Dydd Mercher, 16 Ebrill Tocynnau