3 Drama : 99er, Dishgled ‘da Dela Wisgi
Mae Theatr Bara Caws yn dychwelyd fis Mawrth gyda thair drama mewn un noson gan yr awduron Ceri Ashe, Carwyn Blayney a Cai Llewelyn Evans. Bydd y cast yn cynnwys Gareth John Bale, Elena Carys-Thomas, Siôn Emyr, Mark Henry-Davies a Mali O’Donnell.
Wisgi gan / by Carwyn Blayney
Ers gorffen gyda’i gariad, Wini, mae Gwion yn gweld nad yw’n gallu fforddio byw ar ben ei hun. Diolch byth, mae ei hen ffrind, Iwan, angen gwely. Ond yw pethau wir ar ben rhwng Gwion a Wini? Drama ysgafn am dri pherson hunanol yn ymladd dros lety yn ystod yr argyfwng costau byw.
Dishgled ‘da Del gan / by Cai Llewelyn Evans
Mae’r
shock jock carismatig Del Tozer yn cyffroi ei gwrandawyr selog ar TARAN FM yn
ddyddiol gyda’i sylwadau milain ar fywyd modern. Ond pan ddaw gwestai ifanc â
phersbectif amgen ar y byd a phechodau’r gorffennol i mewn i’r stiwdio, a oes
perygl mai hanes Del ei hun fydd yn cael ei roi o dan y chwyddwydr?
99’er gan / by Ceri Ashe Pan mae tad Elen yn marw yn sydyn, mae'n neidio ar y trên nesaf o Lundain nôl i Sir Benfro, ac yna'n ffeindio’i hun yn gweithio yn fan hufen iâ’r teulu:
"Pan ti’n ifanc a meddwl am bod yn thirties ti, ti’n meddwl, wow, byddai mor sorted erbyn ‘nny - prynu tŷ, job teidi, dim overdraft….blinco - a bam it’s your thirties a ‘sdim lot wedi newid!”
Canllaw oed 14+ Peth defnydd o iaith gref
Cyfarwyddo –Betsan Llwyd a Gareth John Bale
Hyd –2 awr yn cynnwys egwyl
19:30 - Dydd Iau, 27 Mawrth Tocynnau