Dyma weithdai creadigol gyda'r nos sy'n cael eu arwain gan artist proffesiynol gwahanol - a hynny'n fisol.
Ymunwch â ni mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau creadigol. Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer unrhyw un oed 16+ ac yn cael ei gynnal rhwng 18:00 - 20:00.
Gweddill y dyddiadau/celfyddyd:
13/02/25 – Argraffu gyda Zoe Lewthwaite
20/03/25 – Gwneud Gwydr gyda Verity Pulford
17/04/25 – Engrafiad Pren gyda Mr Kobo
15/05/25 – Tecstiliau gyda Karina Geddes
19/06/25 – Lluniau Pastel Unlliw gyda Peter Lewis
£30 y sesiwn *i gynnwys diod. Cynnig arbennig o £120 am y 5 sesiwn.
Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
18:00 - Dydd Iau, 20 Mawrth Tocynnau
18:00 - Dydd Iau, 17 Ebrill Tocynnau
18:00 - Dydd Iau, 15 Mai Tocynnau
18:00 - Dydd Iau, 19 Mehefin Tocynnau