🎭Ymunwch â Byrti a Bwbw wrth iddyn nhw sgleinio’r lleuad! Ond pam mae Pwnîc yn dweud wrth y ddau am beidio gwneud hynny? O diar, bydd y byd i gyd yn dywyll! Yna, mae rhywbeth hudolus iawn yn digwydd….🪄✨
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn adnabyddus am ei ddramâu i blant, ac mae’r cynyrchiad yma oSgleinio’r Lleuadyn her hollol newydd.
Mae ‘Sgleinio’r Lleuad’ yn gynhyrchiad Cymraeg wedi ei anelu at blant 3-7 oed, ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd o bob oedran. Byddwn ni’n creu pecyn geirfa a crynodeb Saesneg, yn agosach i’r amser, er mwyn cynorthwyo profiad siaradwyr Cymraeg newydd, ac annog grwpiau amrywiol i ddod i brofi theatr Gymraeg.
Daw Caryl Lewis yn wreiddiol o Ddihewyd ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu. EnnilloddIawn Boi?wobr Tir na n-Og 2004 ac enwyd ei nofelMartha Jac a Siancoyn Lyfr y Flwyddyn 2005. Mae Caryl yn awdures dorieithiog iawn, gyda nifer sylweddol o’i llyfrau hi’n enill gwobrau- gan gynnwys wobr Wales Book of the Year yn 2023. Mae ei llyfrau diweddar hi ar gyfer plant yn cynnwys ‘Hedyn’, ‘Mari a Mrs Cloch’ a ‘The Magician’s Daughter’.