galeri


Band Tŷ SBARC – Blwyddyn 7-13

image

Rhwng blwyddyn 7 ac 13? Eisiau bod yn rhan o fand? Ymunwch â Sbarc wrth i ni greu band tŷ ar gyfer ein cynhyrchiad cyntaf gan bobl ifanc ers 2019… Grîs!

Mae Grîs yn glasur o sioe gerdd, gyda caneuon cyflym pop a roc, ac ambell gân araf serch yn y canol. Rydym yn chwilio am cerddorion brwdfrydig, ifanc a thalentog i chwarae:allweddellau (keyboard),gitâr, bas a chwythbrennau (e.e. sacsoffon, clarinet).

Bydd ymarferion pob nosFercher 18:00 – 21:00ar y dyddiadau canlynol :

02/10/2024
09/10/2024
16/10/2024
23/10/2024
06/11/2024
13/11/2024
20/11/2024
27/11/2024
04/12/2024

Bydd y sioe ar nos Fercher RHAGFYR 11, 2024 a bydd ambell i ddiwrnod ychwanegol o ymarfer ar gyfer tech ac ati i’w gadarnhau yn fuan.

Mae’r tymor gyfan yn costio £80.00, ond mae cynlluniau talu ar gael, ac hefyd bwrsarïau i blant o deuluoedd incwm-isel. 

Mae llefydd yn gyfyngedig, felly bwciwch eich lle reit handi!

Am sgwrs pellach, cysylltwch â Lowri drwy:lowri.cet@galericaernarfon.com

18:00 - Dydd Mercher, 2 Hydref Tocynnau