BLASU CREFFT: Ella Louise Jones (Tecstiliau | Textiles)
Rydym yn falch iawn i ail-gyflwyno BLASU CREFFT yma'n Galeri.
Dyma weithdai creadigol gyda'r nos sy'n cael eu arwain gan artist proffesiynol gwahanol - a hynny'n fisol.
Ymunwch
â ni mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i ddysgu neu ddatblygu
eich sgiliau creadigol. Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer unrhyw un oed
16+ ac yn cael ei gynnal rhwng 18:00 - 20:00.
Yr artist tecstiliau Ella Louise Jones sydd yn arwain sesiwn mis Mawrth.
Gweddill y dyddiadau/celfyddyd:
23/11/23 – Peintio gyda Jonathan Retallick
14/12/23 – Lluniadu Bywyd Llonydd gyda Zoe Lewthwaite
25/01/24 – Cyfryngau Cymysg gydag Anna Higson
15/02/24 – Serameg gydag Emily Hughes
21/03/24 – Tecstilau gydag Ella Louise Jones
£30 y sesiwn *i gynnwys diod. Cynnig arbennig o £120 am y 5 sesiwn.
Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Rydym
yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym
wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os
oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at
ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu
trafod sut y gallwn eich cefnogi.