galeri


BLASU CREFFT: Emily Hughes (serameg | ceramics)

image

Rydym yn falch iawn i ail-gyflwyno BLASU CREFFT yma'n Galeri


Dyma weithdai creadigol gyda'r nos sy'n cael eu arwain gan artist proffesiynol gwahanol - a hynny'n fisol.


Ymunwch â ni mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau creadigol. Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer unrhyw un oed 16+ ac yn cael ei gynnal rhwng 18:00 - 20:00.


Emily Hughes sydd yn arwain sesiwn serameg mis Chwefror.

Gweddill y dyddiadau/celfyddyd:

23/11/23 – Peintio gyda Jonathan Retallick

14/12/23 – Lluniadu Bywyd Llonydd gyda Zoe Lewthwaite

25/01/24 – Cyfryngau Cymysg gydag Anna Higson

15/02/24 – Serameg gydag Emily Hughes

21/03/24 – Tecstilau gydag Ella Louise Jones


£30 y sesiwn *i gynnwys diod. Cynnig arbennig o £120 am y 5 sesiwn.


Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.


Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

18:00 - Dydd Iau, 15 Chwefror Tocynnau