BLASU CREFFT: Anna Higson (Cyfryngau Cymysg | Mixed Media)
Rydym yn falch iawn i ail-gyflwyno BLASU CREFFT yma'n Galeri.
Dyma weithdai creadigol gyda'r nos sy'n cael eu arwain gan artist proffesiynol gwahanol - a hynny'n fisol.
Ymunwch â ni mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau creadigol. Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer unrhyw un oed 16+ ac yn cael ei gynnal rhwng 18:00 - 20:00.
Cyfryngau cymysg fydd y thema mis Ionawr gyda Anna Higson yn arwain.
Gweddill y dyddiadau/celfyddyd:
23/11/23 – Peintio gyda Jonathan Retallick
14/12/23 – Lluniadu Bywyd Llonydd gyda Zoe Lewthwaite
25/01/24 – Cyfryngau Cymysg gydag Anna Higson
15/02/24 – Serameg gydag Emily Hughes
21/03/24 – Tecstilau gydag Ella Louise Jones
£30 y sesiwn *i gynnwys diod. Cynnig arbennig o £120 am y 5 sesiwn.
Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.