Wedi'i seilio ar y cymeriad anhygoel o lyfr Roald Dahl - Charlie and the Chocolate Factory, mae "Wonka" yn adrodd hanes hudolus dyfeisiwr, consuriwr a gwneuthurwr siocled gorau'r byd, a sut y trodd mewn i'r Willy Wonka r'yn ni gyd yn ei adnabod heddiw.
Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod mynediad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.
Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.