galeri


Y Lein: Streic Friction Dynamics

image

Dangosiad arbennig o raglen ddogfen wedi'i chynhyrchu gan Cwmni Da.

Yn 2003, roedd llygaid y wlad wedi’u hoelio ar ffatri Friction Dynamics ar gyrion Caernarfon wrth i un o’r anghydfodau diwydiannol yn hanes Prydain ddirwyn i ben. Eleni, gyda miloedd ar filoedd o weithwyr yn bygwth gweithredu’n ddiwydiannol dyma gyfle amserol i edrych o’r newydd ar streic a rwygodd cymuned Caernarfon union ugain mlynedd yn ôl. 

Yn y ddogfen hon cawn gwrdd â rhai o brif gymeriadau’r streic. Llinyn allweddol yn y ddogfen hon ydy’r berthynas rhwng y streiciwr Raymond Roberts a’i ŵyr, gwneuthurwr y ffilm, Dïon Wyn. Cof plentyn sydd gan Dïon o’r streic; ychydig o hwyl a chyfle i dreulio amser hefo’i daid oedd sefyll ar Y Lein bryd hynny. Dim ond gyda synnwyr trannoeth mae Dïon wedi sylweddoli mawredd yr anghydfod i’w deulu a’i gymuned - ac mae ganddo gwestiynau.

Mynediad yn rhad ac am ddim (gyda thocyn)

18:15 - Dydd Mawrth, 19 Rhagfyr Tocynnau