galeri


New Welsh Wave Comedy Tour

image

Mae Little Wander yn falch o gyflwyno taith gomedi New Welsh Wave - noson gyda'r gorau o gomedi Cymreig a thalentau anhygoel sydd wedi eu meithrin yng Nghymru, yn cynnwys comedïwyr adnabyddus, a rhai nad ydych yn eu hadnabod eto!

Arweinir y noson gan Kiri Pritchard-McLean, gyda Mel Owen, Anna Thomas, Bella Humphries a Tadiwa Mahlunge.

Kiri Pritchard-McLean
Mae’r comedïwr Cymreig, Kiri Pritchard-McLean, yn ddigrifwr stand-yp sydd wedi ennill sawl gwobr, yn awdur ac yn ddychanwr. Mae ei hymddangosiadau teledu diweddar yn cynnwys arwain Live at the Apollo, Have I Got News For You, 8 Out of 10 Cats a The Russell Howard Hour (y mae hi hefyd yn ysgrifennu ar ei gyfer). Mae hi hefyd yn gyfrannwr cyson i New World Order Frankie Boyle. Yn aelod rheolaidd o’r sîn comedi byw, mae sioe ddiwethaf Kiri, Home Truths, wedi teithio ledled y DU gan ddenu adolygiadau gwych.

“Best described as ‘darkness wrapped in glitter’ as she delivers some brutal jokes with a disarming smile” – Chortle

Mel Owen
Merch o Aberystwyth a alwyd yn “Wales’ most exciting new act” (Clwb Comedi) gyda “pin-sharp writing” (Stand Up For Comedy). Mae hi wedi ennill cystadlaethau stand-yp ar draws y DU, gan gynnwys yn Bristol Comedy Chest, Comedy Smash yn Lerpwl a chystadleuaeth clodwiw Comedy Virgins ar gyfer perfformwyr newydd yn Llundain.

Yn 2022, ymunodd Melanie â thîm cyflwyno Ffermio ar S4C. Fe greodd hi Mel Mal Jal, un o bodlediadau mwyaf poblogaidd Cymru sydd wedi ei gomisiynu gan BBC Sounds.

Anna Thomas
Yn wreiddiol o Borth Tywyn yn ne Cymru, enillodd Anna wobr y BBC New Comedy Award yn 2021. Ers hynny, mae hi wedi cefnogi pobl fel Joe Lycett, Kiri Pritchard-McLean, Hal Cruttenden, Lauren Pattison, a Max Fosh. Enwebwyd Anna hefyd ar
gyfer gwobr Sean Lock gyntaf Channel 4 yn 2023.

“She has the appealing air of not quite being of this world, but whatever planet she’s from, they know funny.” Chortle

Bella Humphries
Mae Bella yn gomedïwr, actor a gwisgwr dyngarîs. Dewch i’w gwylio hi’n bod yn “ddymunol mewn ffordd ddigywilydd” wrth iddi adrodd hanesion am symud i Gymru a gofyn yr hen gwestiwn..pwy yn union ydw i?

Fel y’i clywyd ar BBC Radio Wales a BBC Sounds.

“Bella is in many ways the comedian who misogynistic boomer men fear – full of confidence, not afraid to broach graphic content, and wittier than any of them could ever be.” Blizzard Comedy

Tadiwa Mahlunge
★★★★ ‘The circuit might just have created another Jimmy Carr...’- Chortle
★★★★ ‘Young and gifted, in comedy terms, he’s already looking like the complete, fully rounded package’- The Scotsman
★★★★ ‘An impressively accomplished and infectiously funny debut hour’ -The Skinny
★★★★ ‘He’s remarkably confident, with a set as smooth as his shiny silk shirt’ - Fest Mag
★★★★ - The Daily Mail (we don’t platform them)

Ymddangosodd ar BBC One, Dave, Comedy Central, ITVx, 
Enwebai sioe orau Leicester Comedy Festival.
Enwebai gwobr gomedi Channel 4 Sean Lock.

Canllaw Oedran:16+ (peth rhegi)
Mae'r daith hon yn bosibl oherwydd Cymru Greadigol.

19:30 - Dydd Gwener, 16 Chwefror Tocynnau