Cerys Hafana
Cyfansoddwraig ac aml-offerynwraig yw Cerys Hafana sy'n cymysgu a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae hi'n archwilio y posibiliadau creadigol a'r rhinweddau unigryw sydd yn annatod i sain y delyn deires, a hefyd a diddordeb mewn seiniau wedi eu darganfod, deunydd archif a phrosesu electronaidd. Mai hi'n hanu o Fachynlleth, ble mae'r lonydd a'r afonydd yn cwrdd ar y ffordd i'r môr.
Mae Cerys wedi swyno cynulleidfaoedd o Wyl y Dyn Gwyrdd i'r Eisteddfod, o wyl BBC 6 Music i wyl Celtic Connections gyda'i sain hudolus, blaengar.
Clustnodwyd ei hail albwm Edyf fel un o ddeg albym gorau'r Guardian yn 2022 yn ogystal ac ennill clod eang yn y cyfryngau.
Edrychwn ymlaen yn arw i'w pherfformiad yma yn Galeri.
Noson dull cabaret yn y theatr yw hwn.