DANGOSIAD HAMDDENOL GYDAG IS-DEITLAU – mi fydd yr amgylchedd wedi ei addasu i fod yn fwy ymlaciol a hygyrch. Bydd y golau a lefel sain yn cael eu addasu a bydd croeso i unrhyw un godi, symud ogwmpas a siarad/gwneud swn i fod yn fwy cyfforddus. Bydd y dangosiad hefyd yn cynnwys is-deitlau. Croeso cynnes i bawb!
O Stiwdios Animeiddio Disney, daw'r ffilm ddiweddaraf "Wish". Dyma ffilm gomedi gerddorol, sydd yn tywys y gynulleidfa i deyrnas hudol Rosas, ble mae merch o'r enw Asha yn gwneud dymuniad mor bwerus, caiff ei hateb gan rym cosmig - pelen fechan o egni o'r enw Star.
Gyda'i gilydd, rhaid i Asha a Star wynebu gelyn brawychus - y Brenin Magnifico, er mwyn achub ei chymuned a phrofi fod gwyrthiau bach yn gallu digwydd pan fo un person dewr yn gwneud cysylltiad a'r sêr hudolus.
Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod mynediad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.
Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.
10:00 - Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr Tocynnau
10:00 - Dydd Sadwrn, 16 Rhagfyr Tocynnau
10:00 - Dydd Sadwrn, 23 Rhagfyr Tocynnau