galeri


Sioe Nadolig Cyw 2023: Y DRENEWYDD

image

Dewch ar daith hudolus gyda criw Cyw i helpu ffrind arbennig. 

Mae cyffro’r Nadolig wedi cydio ac mae’r criw yn edrych ymlaen am ymweliad Sion Corn i Orsaf Byd Cyw. Ond o na, does dim sôn am Sion Corn! Gyda help Ben Dant, Bledd o Dreigiau Cadi a phlant Cymru, bydd Cyflwynwyr Cyw yn mynd i helpu Sion Corn. Ond bydd angen rhywfaint o hud y Nadolig i’w helpu hefyd, wrth gwrs!


Cynhelir y perfformiad yma yn Theatr Hafren, Y Drenewydd [SY16 4HU].

Amcan hyd y sioe: 45 munud
Pris tocynnau:  £5 i blant (nid oes angen tocyn/sedd ar gyfer plant dan 2 oed) a £10 i oedolion
*Codir ffi archebu o £1 ar bob archeb dros y ffôn ac ar-lein.

Ystyried dod fel ysgol/grwp? 
Gellir ebostio  cyw@galericaernarfon.com (gan nodi lleoliad / amser / nifer tocynnau sydd angen – plant a staff) a fe fyddwn mewn cysylltiad. Noder bod y gwasanaeth yma ar gyfer archebion grwp YN UNIG.

13:45 - Dydd Mercher, 13 Rhagfyr Tocynnau

11:00 - Dydd Iau, 14 Rhagfyr Tocynnau

13:45 - Dydd Iau, 14 Rhagfyr Tocynnau

17:00 - Dydd Iau, 14 Rhagfyr Tocynnau

11:00 - Dydd Gwener, 15 Rhagfyr Tocynnau

13:45 - Dydd Gwener, 15 Rhagfyr Tocynnau

17:00 - Dydd Gwener, 15 Rhagfyr Tocynnau