galeri


Clwb Creu Nadolig

image

Gweithdy celf i blant lle gall artistiaid ifanc archwilio eu creadigrwydd.

Sesiwn ffeltio addurniadau Nadolig gyda'r Artist Lora Morgan.


Sesiwn bore: Wedi'i anelu at deuluoedd â phlant 5-9 oed.

Sesiwn pnawn: Wedi'i anelu at deuluoedd â phlant 10-15 oed.


Awgrymwn bod plant yn gwisgo dillad hen / cyfforddus. Darperir yr holl ddeunyddiau.

Cynhelir y gweithdy yn ddwy-ieithog | capasiti cyfyngiedig | Hyd gweithdy: 2 awr.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

10:00 - Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr Tocynnau

13:00 - Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr Tocynnau