Lithograffeg Platiau Alwminiwm gyda Dr Veronica Calarco
Mae Platiau Alwminiwm wedi cael eu defnyddio mewn lithograffeg ers blynyddoedd fel dewis amgen i garreg lithograffig. Gan ddefnyddio alwminiwm graen arbennig, mewn egwyddor mae lithograffeg plât alwminiwm neu algraffeg yn debyg i lithograffeg plât carreg a sinc. Gan eu bod yn ysgafn, mae'r platiau alwminiwm hyn yn gludadwy ac yn hwyluso hyblygrwydd gweithio o ran graddfa, cyflymder a rhwyddineb defnydd. Gan ei fod hefyd yn ysgafn ei liw, mae arlunio ar alwminiwm yn debycach i arlunio ar garreg neu bapur na sinc.
Mae Cyflwyniad i Lithograffeg Plât Alwminiwm yn gwrs dwys undydd a fydd yn cyflwyno hyblygrwydd posibl arlunio ac argraffu o blât alwminiwm. Bydd y gweithdy yn rhoi profiad ymarferol a bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gadael gyda'u plât a phrint o'r plât.
Astudiodd tiwtor y gweithdy, Dr Veronica Calarco, ‘printmaking’ ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia ac mae ganddi Doethuriaeth mewn ‘printmaking’ o Brifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gyfarwyddwr ‘Aberystwyth Printmakers’ ac yn sylfaenydd Stiwdio Maelor, rhaglen breswyl i artistiaid yng Nghorris, sydd â’i stiwdio argraffu ei hun. Mae wedi dychwelyd yn ddiweddar o gyfnod preswyl lithograffeg 3 mis yn Umbrella Studios yng Ngogledd Queensland a bydd yn arddangos ei lithograffau yn Galeri Caernarfon yn ystod mis Hydref.
£60 y person deunyddiau wedi'u cynnwys.
Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
10:00 - Dydd Sadwrn, 14 Hydref Tocynnau