Yn dilyn llwyddiant taith yr opera newydd y llynedd, Cyfrinach y Brenin, mae OPRA Cymru yn ol ar y lôn Hydref yma gydag opera newydd arall i blant a theuluoedd, sef 'Peth Bach 'di Cawr'.
Dewch i ddilyn hynt a helynt Culhwch wrth iddo geisio ennill calon Olwen, gan brofi ambell i dro trwstan yn y broses! Yn cynnwys y cast godidog, Erin Gwyn Rossington, Sioned Gwen Davies, Trystan Llyr Griffiths, Rhys Meirion a Steffan Lloyd Owen.
18:30 - Dydd Gwener, 13 Hydref Tocynnau