I lawer, y Nadolig yw cyfnod gorau'r flwyddyn. Y flwyddyn hon, mae 'Dolig yn dod yn gynnar i Gaernarfon gyda chyngerdd arbennig André Rieu - White Christmas - dathliad hollol fythgofiadwy wedi'i ddarlledu i'n sinema ni yma yn Galeri.
O'r gloch gyntaf, byddwch wedi eich trochi yn awyrgylch Nadoligaidd hyfryd André, gwelwch y palas wedi ei addurno'n ysblennydd ar gyfer y cyngerdd hwn. Y candelabras, yr eira a'r rinc sglefrio yn ychwanegu at ysbryd yr wyl.
Clywch nifer o ganeuon traddodiadol y Nadolig, o'r carolau poblogaidd i'r waltzes rhomantaidd sydd yn nodweddiadol o sioeau André Rieu.
Felly ymunwch ac André Rieu a cherddorfa Johann Strauss am gyngerdd Nadolig newydd sbon o gysur eich sinema leol. Gwledd arbennig i'r holl deulu! Mynnwch eich ticed nawr i 'André Rieu's White Christmas'.