Dathlu beth felly? Dau beth - Pen-blwydd Dafydd yn 80 (ar Awst 24ain), a dathlu 40 mlynedd ers geni 'Yma o Hyd', y gan sydd bellach wedi teithio'r byd yn gyfan. Bydd rhai o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru yn ymuno â Dafydd mewn tri chyngerdd yn adeilad hyfryd Galeri ar lannau'r Fenai yng Nghaernarfon, ar Dachwedd 9fed, 10fed a'r 11ed.
Dafydd Iwan a'r Band
Cyfle arall i glywed caneuon sydd wedi tanio Cymru am o leia 60 mlynedd!! Gyda Hefin, Pwyll, Euros, Wyn a Deian a lleisiau Lleucu Gwawr a Ffion Emyr.
Bwncath
Y band a sgubodd y cyfan o'u blaen ym Moduan, ac sydd wedi ennill calon ieuenctid Cymru. Cyfle unigryw i'w clywed ar eu gorau.
Dilwyn Morgan
Y cynghorydd sir mwyaf difyr yng Nghymru!! Brenin Garnfadryn a'r Bala.
19:30 - Dydd Sadwrn, 11 Tachwedd Tocynnau