Dathlu beth felly?
Dau beth
- Pen-blwydd Dafydd yn 80 (ar Awst 24ain), a dathlu 40 mlynedd ers geni 'Yma o
Hyd', y gan sydd bellach wedi teithio'r byd yn gyfan. Bydd rhai o artistiaid
mwyaf poblogaidd Cymru yn ymuno â Dafydd mewn tri chyngerdd yn adeilad hyfryd
Galeri ar lannau'r Fenai yng Nghaernarfon, ar Dachwedd 9fed, 10fed a'r 11ed.
Dafydd Iwan ac Ar Log
Y bartneriaeth a roddodd fod i 'Yma o hyd' yn dod at ei gilydd eto mewn noson fythgofiadwy. Cyfuniad o gerddoriaeth draddodiadol gyffrous a chaneuon gorau Dafydd Iwan ac Ar Log.
Mynediad am Ddim
Y grŵp a roddodd fywyd newydd i ganeuon gwerin Cymru, ac a ddaeth a hwyl yn ôl i'n adloniant cerddorol.
Eilir Jones
Na, nid Ffarmwr Ffowc, on y dyn ei hun!!
19:30 - Dydd Iau, 9 Tachwedd Tocynnau