Gweithdy celf i blant lle gall artistiaid ifanc archwilio eu creadigrwydd.
Sesiwn bore: Wedi'i anelu at deuluoedd â phlant 5-9 oed, er bod croeso i bawb.
Sesiwn pnawn: Wedi'i anelu at deuluoedd â phlant 10-15 oed, er bod croeso i bawb.
Awgrymwn bod plant yn gwisgo dillad hen / cyfforddus. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Cynhelir y gweithdy yn ddwy-ieithog | capasiti cyfyngiedig | Hyd gweithdy: 2 awr.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.