Mae’r cyfarwyddwr uchel ei bri o Loegr, Carrie Cracknell, yn dod â chynhyrchiad newydd bywiog o un o’r operâu mwyaf pwerus, gan adfywio’r stori glasurol gyda dehongliad sy’n symud i’r oes fodern ac yn amlygu wrth galon y ddrama faterion sydd mor berthnasol heddiw: trais ar sail rhywedd, strwythurau yn cam-drin gweithwyr, a’r awydd i dorri drwy ffiniau cymdeithasol.
Y mezzo-soprano ifanc ddisglair, Aigul Akhmetshina, sydd yn arwain pedwarawd grymus o sêr yn y brif rôl gymhleth a thanllyd, ochr yn ochr â’r tenor Piotr Beczala fel cariad cythryblus Carmen, Don José, y soprano Angel Blue fel Micaëla deyrngar, a’r baswr-bariton Kyle Ketelsen fel Escamillo talog. Daniele Rustioni sy’n arwain sgôr Bizet.
17:55 - Dydd Sadwrn, 27 Ionawr Tocynnau