galeri


Florencia en el Amazonas

image

Yn cael ei chanu mewn Sbaeneg ac wedi’i hysbrydoli gan realaeth hudol Gabriel García Márquez, mae opera 1996 y cyfansoddwr o Fecsico, Daniel Catán, yn canolbwyntio ar ddifa opera, Florencia Grimaldi, sy’n dychwelyd i’w gwlad enedigol, Brasil, i berfformio a chwilio am ei chariad coll, sydd wedi diflannu i’r jyngl. 


Yn serennu yn y perfformiad cyntaf hwn yn y Met mae’r soprano Ailyn Pérez fel Florencia, mewn cynhyrchiad newydd gan Mary Zimmerman sy’n dod â realaeth hudol yr Amazon i lwyfan y Met. 

Mae’r ensemble nodedig o artistiaid sy’n portreadu cyd-deithwyr y ddifa ar gwch ar yr afon i Manaus yn cynnwys Gabriella Reyes fel y newyddiadurwraig Rosalba, y baswr-bariton Greer Grimsley fel capten y llong, y bariton Mattia Olivieri fel ei is-gapten enigmatig, y tenor Mario Chang fel nai'r capten Arcadio, a’r mezzo-soprano Nancy Fabiola Herrera a’r bariton Michael Chioldi fel y cwpl cecrus Paula ac Álvaro, gyda Yannick Nézet-Séguin ar y podium.

17:55 - Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr Tocynnau