The Life and Times of Malcolm X
Mae opera arloesol Anthony Davis, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1986, yn cyrraedd y Met o’r diwedd.
Mae Robert O’Hara, a enwebwyd am Wobr Tony yn 2020 am gyfarwyddo Slave Play, yn goruchwylio cynhyrchiad newydd sy’n dychmygu Malcolm fel unrhyw un ohonom y mae ei stori’n mynd y tu hwnt i amser a lle. Mae cast o artistiaid sy’n dechrau gwneud enw iddynt eu hunain yn cymryd rhan yn yr opera hon sy’n ailgyflwyno bywyd Malcom X. Mae’r bariton Will Liverman, a ddaeth i fri yn y perfformiad cyntaf yn y Met o Fire Shut Up in My Bones, gan Terence Blanchard, yn canu rhan Malcolm. Mae’r soprano Leah Hawkins yn chwarae ei fam, Louise; y mezzo-soprano Raehann Bryce-Davis yw ei chwaer Ella; y baswr-bariton Michael Sumuel yw ei frawd Reginald; a’r tenor Victor Ryan Robertson yw’r arweinydd Islam, Elija Muhammad.
Kazem Abdullah sydd yn arwain y sgôr sydd wedi’i diwygio ac sy’n darparu sylfaen haenog, ac ôl jazz arni, ar gyfer libretto’r awdur uchel ei barch, Thulani Davis.
17:55 -
Dydd Sadwrn, 18 Tachwedd
Tocynnau